1. Disgrifiwch eich swydd mewn 20–25 gair
Darparu cefnogaeth gyffredinol ar gyfer gweithgareddau Adnoddau Dynol ar y safle, yn ogystal â chynghori a chefnogi rheolwyr a gweithwyr ar faterion Adnoddau Dynol cyffredinol megis: disgyblaeth, cwynion, trosglwyddo staff, cyfraith cyflogaeth, amrywiadau mewn contractau cyflogaeth, cysylltiadau gweithwyr a rheoli perfformiad.
2. Ers pryd rydych chi wedi bod yn gwneud eich swydd?
Dechreuais fy ngyrfa yn Dunbia yn 2005. Roeddwn i’n gweithio fel Pecynnwr Cig am flwyddyn ac yn ystod yr holl flynyddoedd hyn dwi wedi symud ymlaen i fod yn Uwch Gynghorydd Adnoddau Dynol.
3. Beth yw'r peth gorau am eich swydd?
Mae pob dydd yn wahanol ac yn heriol iawn. Dwi'n dysgu pethau newydd bob dydd. Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda phobl a'u helpu gydag unrhyw broblemau a all godi.
4. Ar ôl i chi gymhwyso, a gymerodd hi'n hir i ddod o hyd i swydd?
Fe wnes i gwblhau fy nghymhwyster tra oeddwn i yn y swydd. Mae’r cwmni’n gefnogol iawn o ran hyfforddi a gwella sgiliau pobl.
5. A wnaethoch chi brynu rhywbeth arbennig gyda'ch siec gyflog gyntaf?
Fe brynais i liniadur newydd gyda fy arian fy hun ac fe archebais hefyd fy ngwyliau cyntaf erioed i Gran Canaria.