- Disgrifiwch eich swydd mewn 20–25 gair
Mae gweithio i’r sector cig coch yn wych. Mae fy swydd yn cynnwys gweithio gyda’r ffermwyr, lladd-dai, archfarchnadoedd, cigyddion, y sector lletygarwch a’r cyhoedd.
- Sut ddaethoch chi i’r swydd hon?
Dwi’n dod o gefndir ffermio, ac roeddwn i eisiau gyrfa a oedd yn canolbwyntio ar fy nau angerdd: amaethyddiaeth a bwyd.
- Beth yw'r peth gorau am eich swydd?
Y peth gorau am y swydd hon yw fy mod i’n cael gweithio gyda phobl ddiddorol, wybodus sy'n frwd dros wella'r sector cig coch i bawb. Dwi'n gweithio ar brosiectau sy'n helpu i ehangu'r diwydiant.
- Ers pryd rydych chi wedi bod yn gwneud eich swydd?
Dwi wedi bod yn gweithio i HCC ers chwe blynedd ac mae’r amser wedi hedfan heibio. Mae'n wych gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.
- Pe gallech chi roi rhywfaint o gyngor gyrfa i chi'ch hun yn 16 oed, beth fyddai hwnnw?
Mae'n iawn os nad wyt ti’n siŵr ble rwyt ti eisiau bod. Cer allan i weithio gwahanol swyddi ar y penwythnosau a darganfod beth rwyt ti’n ei fwynhau a beth rwyt ti’n ei wneud yn dda!