Welsh cy
Kate Muddiman — Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith

Name: Kate Muddiman
Job title: Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith
Employer: Coleg Cambria
Qualification: Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Trawma Ymlyniad ac Iechyd Meddwl, Gradd Anrhydedd mewn Gwyddor Defnyddwyr a Rheoli Cynnyrch, Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli, Diploma Lefel 4 mewn Dysgu a Datblygu, Diploma Lefel 4 mewn Hyfforddi

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?

  • ​Dwi'n angerddol am y swydd hon oherwydd mae'n ein galluogi i gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion trwy ddarparu cefnogaeth trwy gydol eu cymwysterau, taith bywyd, a darganfod eu hangerdd. Mae gweld rhywun yn teimlo'n nerfus ac ansicr ar ddechrau prentisiaeth ac yna arsylwi eu twf graddol mewn sgiliau a hyder, symud ymlaen trwy gymwysterau, ac yn y pen draw yn mwynhau eu swydd yn hynod foddhaus.

Pe gallech chi roi rhywfaint o gyngor gyrfa i chi'ch hun yn 16 oed, beth fyddai hwnnw?

  • ​Pe bawn i'n gallu cynnig cyngor gyrfa i fi fy hun yn 16 oed, byddwn i’n annog fy hun i ddilyn yr hyn rwy'n ei garu. Dewisa yrfa sy'n dod â boddhad ac ymgysylltiad; gall dilyn dy ddiddordebau arwain at daith hynod lwyddiannus. Ond mae’n bwysig deall ei bod yn iawn os nad yw'r llwybr yn troi'n yrfa gydol oes. Canolbwyntia ar wneud yr hyn rwyt ti’n ei garu, mwynha a dysga o bob cam, a chofia y bydd darnau'r pos yn dod at ei gilydd dros amser. Mae dewisiadau heddiw ar gyfer y presennol, a gelli di wneud penderfyniadau newydd os byddi di’n darganfod angerdd sy'n atseinio mwy yn y blynyddoedd i ddod.

Ar ôl i chi gymhwyso, faint o amser gymerodd hi i chi ddod o hyd i swydd?

  • Fe wnes i ymgeisio am swyddi cyn i mi adael y brifysgol felly roedd gen i swydd cyn gynted ag y llwyddais i basio fy ngradd. Dechreuais fel intern rheoli, gan ddysgu sut i fod yn rheolwr mewn llawer o siopau manwerthu ledled y wlad. 

​Beth mae rheolwr dysgu seiliedig ar waith yn ei wneud?

  • Dwi'n gyfrifol am dîm gwych sy'n helpu pobl i ddysgu a chael cymwysterau yn y diwydiant bwyd. Dwi’n siarad â busnesau am y cymwysterau cywir ar gyfer eu gweithwyr a darganfod sut y gallwn eu cefnogi. Dwi hefyd yn cynllunio ac yn rheoli rhaglenni dysgu i wneud yn siŵr bod ein tîm yn helpu pawb i ddysgu'n dda a llwyddo yn eu hyfforddiant yn y gwaith.

​Pe baech chi'n cael y cyfle i wneud y cyfan eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

  • Pe bawn i'n gallu mynd yn ôl a gwneud y cyfan eto, byddwn i’n canolbwyntio mwy ar fwynhau bob dydd. Yn yr ysgol, roeddwn i bob amser yn anelu at y cam nesaf – o’r TGAU i’r chweched dosbarth, o’r Safon Uwch i’r brifysgol, ac ati. Sylweddolais yn ddiweddarach nad yw bywyd yn ymwneud â nodau’r dyfodol yn unig; mae hefyd yn ymwneud â gwerthfawrogi heddiw. Erbyn hyn, dwi'n gwneud yn siŵr fy mod i'n mwynhau'r presennol wrth barhau i ddilyn nodau newydd. Nid yw'n ymwneud â chyrraedd pen y daith yn unig; mae'n ymwneud â blasu'r daith hefyd.